WAQ70733 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2016

Pa waith paratoi mae'r Llywodraeth wedi'i wneud er mwyn gweithredu eich addewid maniffesto i sefydlu cronfa defnydd o'r Gymraeg a gwahodd busnesau i fuddsoddi yn y Gymraeg? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 26/07/2016

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda partneriaid, yn cynnwys Comisiynydd y Gymraeg, i wella’r ffordd rydym yn gweithio i ymgysylltu gyda busnesau a’r Gymraeg, yn cynnwys edrych ar sut i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol, cynllunio’r gweithlu a cyfeirio busnesau at wasanaethau i’w cynorthwyo i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd yr ymrwymiad maniffesto i sefydlu cronfa defnydd iaith yn ystyriaeth allweddol wrth bennu cyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac mae swyddogion wedi dechrau mapio meysydd o flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.