WAQ70731 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2016

Yn dilyn agoriad yr ymgynghoriad gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â chadw TGAU Cymraeg ail-iaith, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar argymhellion yr Athro Sioned Davies ynglŷn â datblygu un cymhwyster erbyn 2018? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 27/07/2016

Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, rôl Cymwysterau Cymru (CC) yw sicrhau bod cymwysterau dilys ar gael i ddysgwyr sy'n dilyn y cwricwlwm statudol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith ar hyn o bryd. Roedd eu hymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 15 Mai, yn gwahodd sylwadau ar newidiadau i'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith i'w addysgu o fis Medi 2017 ymlaen. Pan fydd y cymhwyster TGAU newydd yn cael ei gyflwyno yn 2017 bydd y cyrsiau byr TGAU Cymraeg Ail Iaith yn cael eu tynnu o'r rhestr.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei feini prawf pwnc ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith yn ddiweddar. Bydd y cymhwyster yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd yn Un Iaith i Bawb a Dyfodol Llwyddiannus gan roi mwy o bwyslais ar siarad, gwrando a defnyddio'r iaith. Bydd hyn yn golygu bod y TGAU Cymraeg Ail Iaith yn fwy cydnaws â'r TGAU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno un continwwm dysgu ar gyfer y Gymraeg fel rhan o'n cwricwlwm newydd. Fy uchelgais yw y bydd pob ysgol yn defnyddio'r cwricwlwm newydd i ategu eu dysgu a'u haddysgu ar gyfer plant a phobl ifanc 3-16 oed erbyn 2021.