Yn y Cynulliad diwethaf, gwelwyd nifer o doriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg a byddai rhagor o doriadau yn ei gwneud yn anodd iawn i'r Comisiynydd gyflawni ei chyfrifoldebau. A yw'r Llywodraeth yn cytuno fod hyn yn bryder a bod angen amddiffyn y gyllideb hon? W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 26/07/2016
Bydd y broses o gynllunio’r gyllideb ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn digwydd dros y misoedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb maes polisi’r Gymraeg, gan gynnwys dyraniad i Gomisiynydd y Gymraeg.