WAQ70667 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2016

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad diweddar Estyn ynghylch Ysgol Syr Thomas Picton? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 14/07/2016

Corff annibynnol yw Estyn sy’n gyfrifol am arolygu safon gwasanaethau addysgol yng Nghymru. Mater i’r arolygiaeth ei hun yw’r penderfyniadau a wneir ynghylch dyfarniadau arolygwyr.
Arolygwyd Ysgol Syr Thomas Picton, Sir Benfro, gan Estyn ym mis Ionawr 2015. Barnodd yr arolygwyr bod perfformiad cyfredol yr ysgol, a’i rhagolygon ar gyfer gwella, yn ‘ddigonol’, a phenderfynwyd bod angen i Estyn ei monitro.
Yn dilyn ymweliad monitro gan Estyn ym mis Mehefin 2016, barnwyd nad oedd yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd o ran yr argymhellion yn yr arolygiad gwreiddiol a phenderfynwyd bod angen mesurau arbennig ar yr ysgol.
Yn awr, bydd yr ysgol yn llunio cynllun gweithredu i ddangos sut y bydd yn mynd ati i gyflawni’r argymhellion. Bydd Estyn yn parhau i fonitro cynnydd yr ysgol bob tymor tan ei fod yn fodlon ei bod wedi gwella digon i gael ei thynnu o’r categori ffurfiol ‘mesurau arbennig’.
Bydd ystod o bartïon yn parhau i fod yn rhan o’r gwaith o wella’r ysgol gan gynnwys ei chorff llywodraethu, yr awdurdod lleol, y consortia rhanbarthol, ac Estyn. Bydd yr asiantaethau hyn oll yn chwarae rôl i gefnogi a herio’r ysgol i barhau i wneud newidiadau a chodi safonau.