A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y staff sydd wedi'u recriwtio ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Ngogledd Cymru? W
Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig y Gogledd wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y broses recriwtio’n dechrau dros y misoedd nesaf a bydd nifer o staff wedi dechrau yn eu swyddi erbyn mis Ionawr er mwyn i rai o swyddogaethau’r gwasanaeth ddechrau o’r dyddiad hwnnw ymlaen. Y bwriad yw darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn y Gogledd a bydd y gofyniad hwn yn cael ei gynnwys yn y broses recriwtio.
Roeddwn yn falch y bu modd i mi gyhoeddi cyllid ychwanegol o £7 miliwn ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn gynharach eleni, gan ddod â chyfanswm y cyllid sy’n cael ei ddyrannu i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru i £13 miliwn hyd at 2021. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn golygu y bydd y gwasanaeth arloesol hwn yn cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru erbyn diwedd 2018, flwyddyn yn gynharach na’r bwriad gwreiddiol. Mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau awtistiaeth ac rwy’n hyderus y bydd y cyllid pedair blynedd yn galluogi rhanbarthau i ddarparu cymorth awtistiaeth cyson a chynaliadwy o safon uchel i deuluoedd.