WAQ74252 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2017

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau polisi Llywodraeth Cymru ar arddangos baneri ar ei hadeiladau a'i heiddo o dan reolaeth ei asiantaethau? W

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 03/10/2017

Polisi Llywodraeth Cymru yw arddangos y Ddraig Goch, baner yr Undeb a baner yr Undeb Ewropeaidd ar ei hadeiladau bob dydd.
Mae safleoedd Cadw yn arddangos y Ddraig Goch a baner yr Undeb ar ddyddiau penodedig. (Mae cestyll Rhuddlan a Rhaglan yn arddangos baneri rhydd-ddeiliaid y cestyll ar ddyddiau penodedig).
Yn ogystal, rydym wedi arddangos y baneri canlynol yn ystod y weinyddiaeth hon:
Baner trawsrywedd
18-21 Tachwedd 2016 i nodi Diwrnod Coffáu Pobl Drawsryweddol
Baner yr enfys
12-14 Awst 2016 ar gyfer Pride Cymru
9-15 Chwefror 2017 i nodi Mis Hanes LGBT
17 Mai 2017 i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia
27 Gorffennaf 2017 i nodi 50 mlwyddiant pasio Deddf Troseddau Rhywiol 1967
25-28 Awst 2017 ar gyfer Pride Cymru
Baner y Gymanwlad
14 Mawrth 2017 i nodi Diwrnod y Gymanwlad
Baner Diwrnod y Lluoedd Arfog
18-25 Mehefin 2016
17-24 Mehefin 2017
Ni chafodd baner Owain Glyndŵr ei harddangos ar 16 Medi 2017.