WAQ74238 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y gallu i osod dyletswyddau iaith Gymraeg ar y sector preifat o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan ddaw darpariaethau Deddf Cymru 2017 i rym? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 05/10/2017

Nod y cynigion yn ein Papur Gwyn, 'Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', yw ein helpu i wireddu ein gweledigaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rwyf ar ddeall nad yw Deddf Cymru 2017 yn nodi unrhyw faterion penodol a gadwyd yn ôl oddi wrth y Cynulliad o ran pwerau i osod dyletswyddau ar fusnesau preifat ynghylch y Gymraeg. O dan y model pwerau a gedwir yn ôl, mae'r hyn nad yw wedi'i gadw'n ôl wedi'i ddatganoli, cyn belled nad yw'r hyn a fwriedir yn mynd yn groes i unrhyw un arall o'r cyfyngiadau yn Neddf Cymru.

Mae yna rai materion penodol a gadwyd yn ôl, er enghraifft gwasanaethau ariannol, gan gynnwys bancio ac yswiriant. Nid yw deddfu ar faterion a gadwyd yn ôl o fewn pŵer y Cynulliad. Fodd bynnag, mae yna ddarpariaeth hefyd sy'n golygu bod modd gosod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar bersonau sy'n dod o fewn cwmpas y materion eraill hynny a gadwyd yn ôl. Unwaith eto, yr amod yw nad yw'r hyn a fwriedir yn mynd yn groes i unrhyw un arall o'r cyfyngiadau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn yn cwblhau'n derfynol ein cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Bydd darpariaethau Deddf Cymru 2017 yn ei gwneud yn ofynnol ystyried yn ofalus yng ngoleuni'r cynigion hynny.