WAQ74400 (w) Wedi’i gyflwyno ar 09/10/2017

A yw Ysgrifennydd y Cabinet neu swyddogion yn ei hadran wedi trafod Papur Gwyn yr iaith Gymraeg gyda'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, yn ffurfiol neu yn anffurfiol, ac a oedd hynny cyn neu ar ôl i'r Ombwdsmon gyflwyno ei ymateb i i'r Papur Gwyn; ac a wnaiff amlinellu dyddiadau ar gyfer unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 13/10/2017

Mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru gyfarfod Panel Cynghori'r Ombwdsmon ar 13 Medi ar wahoddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yn y cyfarfod hwnnw, amlinellodd yr Ombwdsmon brif elfennau ei ymateb arfaethedig i'r Papur Gwyn. Derbyniwyd ymateb ysgrifenedig yr Ombwdsmon ar 26 Medi.