WAQ74385 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2017

A wnaiff Llywodraeth Cymru warantu'r un lefel incwm ar gyfer ffermwyr rhwng 2019 a 2022? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 18/10/2017

Rôl Llywodraeth Cymru, o ran incwm ffermwyr, yw gweithio ochr yn ochr â’r undebau amaethyddol, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru), Hybu Cig Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i annog a chefnogi mwy o effeithlonrwydd a chadernid ymhlith ein ffermwyr, yn ogystal â mwy o ffocws ar y farchnad. Dyna’r camau gweithredu sylfaenol sydd eu hangen os ydym am ddiogelu ac annog twf mewn incwm ffermydd.
Mae’r diwydiant amaeth yn wynebu heriau sylweddol yn sgil Brexit. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw ymrwymiadau clir ynglŷn â chyllid y tu hwnt i 2022, nac unrhyw sicrwydd ynghylch cytundebau masnach ar ôl inni ymadael â’r UE. Mae’r rhain yn ffactorau allweddol i ffyniant y diwydiant amaeth yng Nghymru yn y dyfodol, a rhaid i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â nhw gyda mwy o frys.
Mae’r berthynas waith agos sydd gen i a’m swyddogion â’n rhanddeiliad allweddol, trwy fy Mord Gron ar Brexit, wedi bod yn un gadarnhaol iawn. Mae wedi dangos bod angen mwy o gymorth busnes wedi’i dargedu i annog perthynas agosach rhwng cadwyni cyflenwi, yn ogystal â chydweithio ac archwilio cyfleoedd newydd yn y farchnad.
Mae oddeutu 7,500 o’n ffermwyr wedi elwa ar y cymorth busnes a ddarparwyd gan Cyswllt Ffermio hyd yma, a byddwn yn annog holl ffermwyr Cymru i ystyried beth sydd gan Cyswllt Ffermio i’w gynnig. Mae’r cymorth sydd ar gael wedi’i gyfeirio’n uniongyrchol at foderneiddio pellach a chraffter busnes, yn ogystal â gwella cadernid a ffyniant.
Er gwaethaf yr ansicrwydd sylweddol sy’n bodoli o hyd ynghylch cyllid a threfniadau masnach y dyfodol, mae llawer o bethau y gall ffermwyr eu gwneud yn awr i baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r UE. Mae meincnodi yn erbyn y goreuon, gostwng costau mewnbwn lle bo modd, defnyddio’r dechnoleg a’r technegau diweddaraf, chwilio am gyfleoedd newydd i arallgyfeirio (coed, ynni adnewyddadwy a thwristiaeth i enwi dim ond tri) yn gamau gweithredu cadarnhaol y gall ffermwyr eu cymryd heddiw i helpu i sicrhau eu hincwm a’u busnesau.