WAQ73546 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd disgwyl i weithredwr nesaf gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau ddarparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 26/05/2017

Bydd yr holl gyfathrebu llafar ac ysgrifenedig â’r cyhoedd a theithwyr yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Pan fydd cwsmeriaid yn gwneud ymholiadau am drenau ac yn cysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, bydd ymatebion yn cael eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg. Os bydd staff Cymraeg eu hiaith ar gael, bydd modd cyfathrebu yn Gymraeg mewn derbynfeydd gorsafoedd ac mewn swyddfeydd tocynnau. Os na fydd staff Cymraeg eu hiaith ar gael, bydd staff â sgiliau yn y Gymraeg ar gael o bell dros y ffôn neu drwy dechnolegau presenoldeb o bell. Rydym yn disgwyl i’r cwmni gweithredu gynnig hyfforddiant ar y Gymraeg i ganran o’i staff sy’n delio â chwsmeriaid.