WAQ73545 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2017

A fydd cytundeb gweithredwr nesaf Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn cynnwys cymalau yn gosod amodau penodol o ran y Gymraeg? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 26/05/2017

Bydd cymalau a fydd yn diffinio’r gofynion cyffredinol i’r Gymraeg gael ei hyrwyddo ar draws y gwasanaethau rheilffordd a ddarperir. Bydd cymalau hefyd a fydd yn diffinio’r gofynion o ran cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg, cyfathrebu â chwsmeriaid yn Gymraeg a hyfforddiant ar y Gymraeg i staff. Rydym yn disgwyl i’r cwmni gweithredu gynnig hyfforddiant ar y Gymraeg i ganran o’i staff sy’n delio â chwsmeriaid.