Beth yw briff, cylch gorchwyl ac amserlen yr adolygiad o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a gynhelir ar gais Llywodraeth Cymru? W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 30/03/2017
Mae Aled Roberts wedi’i benodi i gynnal adolygiad cyflym o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Darparu cyfres o argymhellion i symud cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn eu blaen yw’r prif friff. Nid oes cylch gorchwyl wedi’i sefydlu ar gyfer y cyfnod hwn. Rhagwelir y caiff yr adolygiad ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill, dechrau Mai 2017.