Beth yw polisi'r Gwasanaeth Iechyd o ran cynnig brechiad yn erbyn niwmonia? W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 22/12/2016
Mae polisi'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n seiliedig ar gyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sef cynnig y brechlyn niwmococol (PPV) i'r rhai sydd mewn mwy o berygl o haint niwmococol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd un brechiad yn amddiffyn person am oes. Ond bydd rhai cleifion sydd â phroblemau gyda'r ddueg neu'r arennau angen pigiad atgyfnerthu bob pum mlynedd i gynnal y lefelau cywir o wrthgyrff rhag yr haint.
Ceir rhagor o wybodaeth am frechiadau niwmococol ar wefan Galw Iechyd Cymru: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/p/article/pneumococcalvaccination/