WAQ71728 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2016

Beth yw'r fethodoleg ar gyfer gweithio allan sgôr fferm ar gyfer cais ariannol o dan y cerdyn sgorio Glastir Organig? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 22/12/2016

Mae parseli tir yn cael eu hasesu ar sail amcanion gan gynnwys rhai'r ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer bioamrywiaeth, ansawdd dŵr a phridd carbon. Cyfrifir y sgoriau trwy luosi'r pwyntiau sydd wedi'u pwysoli fydd wedi'u neilltuo yn ôl eu blaenoriaeth trwy fand ac yn ôl pa mor gyffredin y mae pob amcan. Lluosir y sgôr gan faint y parsel sy'n gorgyffwrdd â'r amcan. Cyfunir holl sgoriau'r parsel gan eu normaleiddio wedyn trwy rannu arwynebedd y cais i wneud yn siwr nad yw ceisiadau mawr yn cael ffafriaeth awtomatig.