WAQ71727 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2016

A all y Gweinidog ddarparu eglurhad o sut y mae Llywodraeth Cymru yn osgoi talu ffermwyr am yr un peth ddwywaith, sef gyda'r un meini prawf ar gyfer Glastir Uwch a Glastir Organig? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 22/12/2016

Mae taliadau Glastir Organig yn seiliedig ar gyflawni mwy nag y gofynnir amdanynt yn y rheoliadau llorweddol a'r gofynion lleiaf ar gyfer gwrtaith a phlaladdwyr. Mae'r taliadau'n ystyried hefyd ymrwymiadau amaeth-amgylcheddol a hinsawdd gan eu defnyddio fel llinell sylfaen. O'r herwydd, lle ceir contract Glastir Uwch, ni thelir taliadau Glastir Organig ond ar gyfer y gweithgareddau sy'n cyflawni mwy na'r gofynion hynny.