WAQ71725 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2016

A yw parthau perygl nitradau yn cael eu hystyried o dan feini prawf y cerdyn sgorio grantiau Glastir Organig? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 22/12/2016

Nac ydynt. Ni ystyrir Parthau Perygl Nitradau o dan feini prawf sgorio Glastir Organig. Ar gyfer Glastir Organig, caniateir defnyddio ardaloedd blaenoriaeth ansawdd dŵr os gallai eu rheoli at ddiben amaethyddol gyfrannu at wireddu amcanion Cyfarwyddeb y Fframwaith Dŵr neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae modd dewis Parthau Perygl Nitradau er hynny os ydyn nhw'n gorgyffwrdd ag ardaloedd yr amcanion hyn ac eraill.