Beth yw'r diweddaraf ar y cynllun "Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg," sef cynllun i hyrwyddo amcanion y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y siroedd gwannaf? W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 14/12/2016
Mae gennym weithgareddau cyfathrebu a marchnata ar y gweill o hyd i godi ymwybyddiaeth ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith darpar rieni a rhieni plant ifanc.
Y brand mwyaf ar gyfer gweithgareddau o'r fath yw 'Cymraeg i Blant' ac rydyn ni'n defnyddio nifer o negeseuon allweddol gan gynnwys:
- Dechrau eu taith at ddwy iaith
- Mwy o ddewis i'r dyfodol
- Pluen arall yn eu het
- Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg
Gweithgareddau a gynhaliwyd hyd yma:
- Dosbarthu ffolderi mamolaeth a chardiau sgan yn cynnwys gwybodaeth a negeseuon allweddol am drosglwyddo'r iaith yn gynnar a dewis addysg cyfrwng Cymraeg drwy bob bwrdd iechyd.
- Cymorth dwys i rieni mewn 15 ardal awdurdod lleol drwy swyddogion 'Cymraeg i Blant' a'n contract gyda'r Mudiad Meithrin.
- Dosbarthu sticeri car a phosteri o'r wyddor Gymraeg drwy raglen Dechrau Da.
- Adnoddau i rieni e. e. siart gwobrwyo, gêm bapur, rhestr chwarae ddigidol o ganeuon Cymraeg.
- Gweithio gyda Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd i wella'r wybodaeth maen nhw'n ei darparu i rieni.
- Gweithio gyda thimau eraill o fewn Llywodraeth Cymru sydd hefyd yn targedu'r un gynulleidfa megis Mae addysg yn dechrau yn y cartref sydd wedi cynhyrchu CD sy'n cynnwys caneuon a geiriau Cymraeg i annog rhieni i ddefnyddio'r iaith o'r diwrnod cyntaf un.
- Gweithio gyda chydweithwyr Iechyd i ail-frandio Cofnod Personol Iechyd y Plentyn (sydd hefyd yn cael ei alw'n 'Llyfr Coch') sy'n cael ei roi i rieni newydd yng Nghymru ar ôl genedigaeth eu plentyn. Y bwriad yw cynnwys negeseuon allweddol am drosglwyddo'r iaith yn gynnar a dewis addysg cyfrwng Cymraeg.
Wrth hyrwyddo'r gweithgareddau hyn, rydyn ni'n defnyddio tri chyfrwng cyfathrebu digidol yn arbennig i gysylltu â rhieni:
- Y wefan: www. llyw. cymru/cymraegiblant
Mae'r wefan yn cynnig cyngor a chymorth i rieni ac mae hefyd yn cynnwys adrannau ar sut i gyflwyno'r Gymraeg yn y cartref a defnyddio'r iaith o'r dechrau'n deg. Mae tua 3,000 o ymwelwyr unigryw yn edrych ar yr adran hon o'r wefan bob mis yn rheolaidd.
- Twitter - @cymraegforkids
Mae tua 24,600 o argraffiadau bob mis ar gyfer negeseuon twitter sy'n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am addysg cyfrwng Cymraeg a chymorth a gweithgareddau Cymraeg i rieni. - Facebook – Cymraeg i blant
Mae tua 150,000 o argraffiadau bob mis ar gyfer tudalen facebook sy'n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am addysg cyfrwng Cymraeg a chymorth a gweithgareddau Cymraeg i rieni.
Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen ddwy flynedd i hyrwyddo 'Cymraeg i Blant'. Bydd y rhaglen yn cynnwys y canlynol:
- Sesiynau blasu 'Cymraeg i Blant' i'w cynnal ledled Cymru.
- Ymgyrch farchnata yn defnyddio nifer o gyfryngau digidol i godi ymwybyddiaeth am addysg cyfrwng Cymraeg a chymorth gyda'r Gymraeg i rieni.
- Datblygu'r wefan ymhellach.
- Adnoddau ar gyfer swyddogion Cymraeg i Blant.
- Llyfryn yn hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog i'w ddosbarthu drwy'r awdurdodau lleol, y Mentrau Iaith a swyddogion Cymraeg i Blant.
- Hyfforddiant ac adnoddau i weithlu'r rhaglen Dechrau'n Deg i gefnogi eu trafodaethau am yr iaith ac addysg cyfrwng Cymraeg gyda rhieni.