Pa gyfarfodydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ar diwydiant y morlynnoedd llanw, ers etholiad San Steffan ar 8 Mehefin 2017? W
Rydym wedi bod yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y diwydiant morlynnoedd llanw ers etholiad San Steffan, ac rydym yn parhau i wneud hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn parhau i bwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clarke am y diweddaraf ynghylch ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Adroddiad Hendry. Cafodd ateb dros dro arall ar 8 Awst oddi wrth y Gweinidog Ynni a Diwydiant, yn dweud y byddai ymateb y Llywodraeth i Adolygiad Hendry yn cael ei gyhoeddi yn y man.
Ddechrau mis Gorffennaf, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Diwydiant a Strategaeth Ddiwydiannol, ac mae’n dal i aros am ateb.
Rydym wedi mynegi’n anfodlonrwydd wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rydym yn parhau i wthio am ymgysylltiad llawn gan ystyried pwysigrwydd y penderfyniad i Gymru.