WAQ74040 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/08/2017

Fel rhan o ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu Polisi Cynllunio Cymru i'w gysoni ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a wnaiff ddiweddaru'r polisi ar amddiffyn y cyhoedd rhag llygredd aer? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 09/08/2017

Rydw i wedi ymrwymo i adolygu Polisi Cynllunio Cymru i'w gysoni â'r ffyrdd o weithio sy'n cael eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y polisi presennol mewn perthynas ag ansawdd aer yn cael ei ddiweddaru fel rhan o'r adolygiad hwn.