WAQ74039 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/08/2017

Pryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cyhoeddi'r fersiwn newydd o TAN 20: Cynllunio a'r Iaith Gymraeg? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 15/08/2017

Yn anffodus, bu oedi cyn cyhoeddi TAN 20 wrth inni edrych ymhellach ar y berthynas rhwng TAN 20 a Fframwaith Asesu Risgiau a Manteision newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i ystyried y cysylltiadau rhwng y ddwy ddogfen yn ystod yr haf. Rwy’n awyddus i gyhoeddi TAN 20 ddiwedd Medi.