A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet fwriad i gryfhau rhan B o'r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân? W
Ymdrinnir â’r rheoliadau adeiladu ar ddiogelwch tân o dan Rhan B o'r Rheoliadau Adeiladu. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i gynnal adolygiad annibynnol o reoliadau adeiladu a diogelwch tân yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell. Rwy'n croesawu'r bwriad i drafod â'r Gweinyddiaethau Datganoledig, gan ei bod yn debygol y bydd y materion sy'n codi yn sgil Grenfell yr un mor berthnasol i ni yng Nghymru o ystyried bod gofynion Rhan B - Diogelwch Tân a'r canllawiau cysylltiedig yn deillio o'r polisi blaenorol ar gyfer Cymru a Lloegr. Rydw i wedi gofyn am gael trafodaeth gynnar gyda Chadeirydd yr Adolygiad. Byddaf yn ystyried a oes angen gwneud newidiadau i'r rheoliadau busnes yng Nghymru ar ôl gweld canfyddiadau'r arolygiadau, yr ymchwiliad cyhoeddus a'r adolygiad annibynnol.