WAQ74035 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/08/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfarfod gyda Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell, i drafod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 09/08/2017

Bûm i a'r Cwnsler Cyffredinol yn cwrdd â Gweinidog yr Alban ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r Arglwydd Adfocad ar 27 Gorffennaf. Trafodwyd ein pryderon cyffredin ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) gan Lywodraeth y DU a'i effaith negyddol ar y setliadau datganoledig fel y maent wedi'u drafftio ar hyn o bryd. Trafodwyd dulliau gweithredu posibl ar y cyd a sut y gallem weithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu fframweithiau y mae pob gwlad yn y DU yn cytuno arnynt, lle y mae Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig yn cydsynio bod eu hangen. Roeddem yn hollol gytûn y byddai unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i orfodi fframweithiau neu ddefnyddio Bil Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fel esgus i roi cyfyngiadau newydd ar sefydliadau datganoledig yn cael ei wrthod yn gadarn.