WAQ74033 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/08/2017

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â staffio yn Ysbyty Bronglais yn dilyn adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 09/08/2017

Rwy’n cyfarfod cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rheolaidd i drafod amrywiol faterion yn ymwneud â’r gwasanaeth. Mae fy swyddogion hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i ddarparu cymorth wrth iddynt ddatblygu a gweithredu eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig i ganolbwyntio ar faterion sy’n cael blaenoriaeth, gan gynnwys recriwtio a chadw staff.
Fel gweddill y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu heriau wrth recriwtio gweithlu parhaol. Er mwyn rhoi sylw i hyn, mae’r bwrdd iechyd yn gweithio gyda’u partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â datblygu eu hymgyrchoedd lleol eu hunain, i fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle recriwtio posib ar-lein ac all-lein ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn cefnogi ein hymgyrch recriwtio genedlaethol ‘Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw’ ac wedi cysoni eu gweithgarwch recriwtio eu hunain gyda’r ymgyrch genedlaethol.