WAQ74032 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/08/2017

Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch gwasanaethau bancio yn dilyn dadl Plaid Cymru ar 15 Chwefror 2017, ac ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru i'r maes? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 15/08/2017

Ken Skates: Er nad yw rheoliadau bancio wedi eu datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn ynghylch yr effaith negyddol a gaiff cau banciau ar fusnesau a phobl leol. Mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn enwedig, gall dod â gwasanaethau lleol i ben gael effaith sylweddol ac andwyol ar unigolion, busnesau, ac yn wir, gymunedau cyfan. Mae’n anffodus iawn bod cangen o fanc Santander yn Ninbych y Pysgod yn cau.
Mae Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016 yn pennu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid - yng Nghymru ac ar lefel Prydain – i wella’r mynediad at gredyd a gwasanaethau ariannol fforddiadwy. Mae hynny’n cynnwys mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, yn ogystal â’r angen i wella’r galluoedd ariannol yng Nghymru. Cafodd y Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2016, sy’n pennu’r camau a’r mesurau sydd eu hangen i gynyddu cynhwysiant ariannol ledled Cymru. Mae’r Cynllun Cyflawni yn tynnu sylw at yr angen i gydweithio’n agos â sefydliadau sy’n bartneriaid, ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, gan eu bod mewn sefyllfa dda i hyrwyddo cynhwysiant ariannol a gallu ariannol.


Roedd y Prif Weinidog a minnau yn croesawu’r adolygiad gan yr Athro Griggs, oedd yn gwneud argymhellion i wella’r ffordd y mae banciau’n cysylltu gyda chymunedau, gan gynnwys cwsmeriaid sy’n fusnesau bychain. Rydym yn codi’r mater o gau banciau yn rheolaidd, ac adolygiad Griggs pan fyddwn yn cyfarfod â’r banciau. Rydym hefyd wedi gofyn i’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddatblygu prosiect i gasglu a dadansoddi’r dystiolaeth sydd ar gael ar fancio cyhoeddus. Mae’r adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus wedi dod i law ac yr wyf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ystyried eich ymateb. Bydd y camau nesaf yn dibynnu ar y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect.