WAQ71189 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/10/2016

Yn sgil nod Rhaglen y Llywodraeth o 'sicrhau gwell mynediad i deithio actif', pa fesurau sydd wedi eu cynnwys yng nghynlluniau'r llywodraeth ar gyfer Ffordd Osgoi Caernarfon/Bontnewydd i wella mynediad i seiclwyr a cherddwyr ar hyd llwybr y ffordd yn ei gyfanrwydd ac yn benodol yng nghylchfan Tafarn y Goat, Llanwnda? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 20/10/2016

Mae ein contractwyr a'u hymgynghorwyr dylunio wedi ystyried teithio llesol mewn nifer o ffyrdd.

Drwy ymgynghori â Chyngor Gwynedd a rhanddeiliaid allweddol eraill, nodwyd ac aseswyd cyfleoedd i gadw a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion. Dylanwadodd yr ymgynghori hwnnw ar ddyluniad y cynllun, a'r dyluniad hwnnw yw sail y Gorchmynion drafft a'r Datganiad Amgylcheddol a gyhoeddwyd. Mae'r ymgynghori'n parhau ac mae'r ddarpariaeth yn cael ei hadolygu'n gyson wrth i'r broses ddylunio fynd rhagddi.

Yn gyffredinol, pan fo cynllun yn croesi llwybrau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, bydd y llwybrau hynny'n cael eu cadw drwy ddarparu amryw o fesurau, gan gynnwys pontydd, tanffyrdd a chroesfannau twcan newydd. Rydym wedi cyflwyno pont newydd, na fydd yn bont ar gyfer cerbydau, dros y ffordd osgoi i'r gorllewin o Bontnewydd, a bydd hynny'n creu llwybr newydd mwy diogel ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Wrth gylchfan Tafarn y Goat, bydd defnyddwyr yn croesi cefnffordd bresennol yr A487 ar groesfan a fydd yn cael ei rheoli â signalau traffig 'Twcan' ac a fydd yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Ni fydd yn rhaid iddynt groesi'r Ffordd Osgoi newydd na ffordd bresennol yr A499 i Bwllheli.