Pa sylw sydd wedi'i roi i anghenion Teithio Llesol yng nghynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd? W
Mae ein contractwr a'u hymgynghorwyr cynllunio wedi ystyried y trefniadau presennol ar gyfer Defnyddwyr Teithio Llesol mewn nifer o ffyrdd. Maent wedi ymgynghori â Chyngor Gwynedd a'r prif randdeiliaid i ddeall eu hanghenion ac i dderbum y data sydd ar gael. Maent hefyd wedi edrych ar y seilwaith presennol a symudiadau defnyddwyr, gan gynnwys arolygon, i nodi problemau a chyfleoedd. Ein nod yw cadw a chynnal y ddarpariaeth ar gyfer defnyddwyr ble y mae'n gysylltiedig â'r cynllun, Roedd hyn yn llywio'r cynllun yr oedd y Gorchmynion drafft a'r Datganiadau Amgylcheddol yn seiliedig arnynt. Mae'r ymgynghoriad yn parhau gyda'r prif randdeiliaid ac yn cael eu hadolygu'n barhaus fel rhan o'r broses gynllunio.