Gan fod Parc Bryn Cegin yn cael ei nodi fel un o'r 20 safle cyflogaeth strategol pwysicaf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r ymdrechion i hyrwyddo'r safle? W
Cafodd Liberty Properties eu penodi fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Hamdden ym Mharc Bryn Cegin yn dilyn y broses o gynnig cystadleuol ar ran Llywodraeth Cymru gan Legat Owen. Mae pris prynu Liberty Properties yn adlewyrchu gwerth y safle ar y farchnad agored. Nid ydynt yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Ni chaiff Legat Owen ei benodi i farchnata gweddill y safle ac mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gaffael asiant gwerthu newydd o dan y Fframwaith Caffael Cenedlaethol. Gofynnir i’r asiant newydd roi cyngor ar y ffordd orau i hyrwyddo’r safle. Yn y cyfamser, mae’r safle’n cael ei hyrwyddo ar Gronfa Ddata Eiddo Cymru, gan dimau Sectorau Adran yr Economi a drwy Raglen Niwclear Wylfa Newydd.
Rhagwelir y bydd datblygiad Liberty Properties yn gweithredu fel catalydd ar gyfer prosiectau eraill, ac mae nifer o bartïon eraill eisoes wedi dangos diddordeb.