WAQ71176 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/10/2016

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i Liberty Properties wrth iddynt ddatblygu eu cais cynllunio ar gyfer datblygu plot C2 ar safle Parc Bryn Cegin? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 20/10/2016

Cafodd Liberty Properties eu penodi fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer Cynllun Datblygu Hamdden ym Mharc Bryn Cegin yn dilyn y broses o gynnig cystadleuol ar ran Llywodraeth Cymru gan Legat Owen. Mae pris prynu Liberty Properties yn adlewyrchu gwerth y safle ar y farchnad agored. Nid ydynt yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

Ni chaiff Legat Owen ei benodi i farchnata gweddill y safle ac mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gaffael asiant gwerthu newydd o dan y Fframwaith Caffael Cenedlaethol. Gofynnir i’r asiant newydd roi cyngor ar y ffordd orau i hyrwyddo’r safle. Yn y cyfamser, mae’r safle’n cael ei hyrwyddo ar Gronfa Ddata Eiddo Cymru, gan dimau Sectorau Adran yr Economi a drwy Raglen Niwclear Wylfa Newydd. 

Rhagwelir y bydd datblygiad Liberty Properties yn gweithredu fel catalydd ar gyfer prosiectau eraill, ac mae nifer o bartïon eraill eisoes wedi dangos diddordeb.