WAQ73414 (e) Wedi’i gyflwyno ar 03/05/2017

Sawl diwrnod gwaith a gollwyd oherwydd bod staff wedi'u cofrestru'n sâl gyda chyflwr yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, gan gynnwys straen, o ran holl Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn a) 2015-16 a b) 2016-17?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 16/05/2017
  • 2015/16 - 1032 o ddiwrnodau gwaith a gollwyd i salwch meddwl
  • 2015/16 - 1032 o ddiwrnodau gwaith a gollwyd i salwch meddwl



Mae cyfanswm y lefelau salwch i weithwyr y Comisiwn, ar gyfer y cyfnodau treigl o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2016 a 31 Mawrth 2017 wedi gostwng o 3. 72% i 3. 54% yn y drefn honno.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn buddsoddi yn iechyd, diogelwch a lles holl gyflogeion y Comisiwn, Aelodau'r Cynulliad a'u staff, contractwyr a phawb sy'n ymweld ag ystâd y Cynulliad, ac rydym yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio'n statudol â'r ddeddfwriaeth bresennol.

Mae Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol y Comisiwn yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid Gwasanaeth i reoli lefelau absenoldeb. Rhoddir sylw arbennig i gefnogi'r cyflogeion hynny yr effeithir arnynt gan iechyd meddwl, gan gynnwys atgyfeirio cyflogeion yn brydlon i iechyd galwedigaethol, cymorth i reolwyr llinell ac, mewn achosion mwy difrifol ac acíwt, ymarfer ein dyletswydd gofal llawn trwy ddarparu mynediad i ddarpariaeth iechyd meddwl arbenigol.

Ers mis Mehefin 2016, mae ein Strategaeth Llesiant wedi canolbwyntio ar chwalu'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl. Cafwyd rhaglen weithredol o ddigwyddiadau dros y saith mis diwethaf, gan gynnwys ein Hwythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl gyntaf, a gynhaliwyd ym mis Hydref 2016. Yn ystod yr wythnos hon arwyddodd y Comisiwn yr addewid Amser i Newid Cymru i roi terfyn ar stigma iechyd meddwl yn y gweithle, a phenodwyd aelod o'r Bwrdd Rheoli i fod yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl y Comisiwn. Cynhaliwyd 'Sgyrsiau Amser i Newid', lle roedd cyflogeion yn gallu clywed profiadau uniongyrchol, a dilynwyd hyn i gyd gan hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl.

Cyflawniad nodedig arall oedd Dydd Llun Digalon ym mis Ionawr 2017 pan lansiodd y Comisiwn ei Bolisi Iechyd Meddwl, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad agos â'r Rhwydwaith Cyflogeion Iechyd Meddwl newydd. Mae'r Rhwydwaith yn gweithio'n agos â'r adran Adnoddau Dynol ac yn canolbwyntio ar leihau stigma adrodd ac annog cyflogeion i geisio cymorth gan eu rheolwr llinell a Chomisiwn y Cynulliad ar gyfer eu llesiant meddyliol.

Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn partneriaeth ag Amser i Newid Cymru, roi cychwyn ar Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ar 8 Mai 2017 gyda digwyddiad brecwast a gynlluniwyd yn benodol i arddangos arfer gorau cyflogwyr wrth gefnogi'r rhai sy'n dioddef o faterion iechyd meddwl yn y gweithle, neu yr effeithir arnynt gan y materion hynny.

Mae'r nifer uwch o ddyddiau a gollwyd i salwch meddwl, yn erbyn cyfradd adrodd mewn perthynas ag afiechyd yn fwy cyffredinol sydd wedi gostwng yn ystod y cyfnod hwn, yn awgrymu bod y dull hwn o leihau stigma yn cael effaith gadarnhaol. Mae'r data hyn yn cael eu cefnogi ymhellach gan naratif cadarnhaol gan aelodau'r rhwydwaith sy'n teimlo'n fwy abl i gael sgyrsiau agored mewn ffordd nad oeddent yn teimlo'n gyfforddus yn ei gwneud o'r blaen.