A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu banciau bwyd yng Nghymru, a fydd yn colli arian yn sgil y ffaith bod y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben? W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant | Wedi'i ateb ar 10/05/2017
Mater i gynghorau lleol yw penderfynu ar y defnydd gorau o’r Gronfa Etifeddol a’u hadnoddau eu hunain, er mwyn parhau â’r gwasanaethau mwyaf effeithiol a ddarparwyd gynt o dan raglen Cymunedau yn Gyntaf.