WAQ73394 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2017

Pa drafodaethau mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi eu cynnal gydag Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd Llywodraeth y DU ynglyn â marwolaethau nifer o fabanod dan ofal Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 27/04/2017

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn dilyn ei gyhoeddiad ynghylch gofyn i reoleiddwyr y GIG gynnal ymchwiliad i wasanaethau mamolaeth Ymddiriedolaeth GIG yr Amwythig a Telford.

Gofynnais i’r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad a’r prosesau ymchwilio gynnwys cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a’r gofal a ddarparwyd i unrhyw deuluoedd o fewn yr ardal hon. Mae hyn er mwyn sicrhau ymchwiliad llawn o’r holl ofal a gafodd ei ddarparu. Rwyf hefyd wedi gofyn am sicrwydd y bydd y canfyddiadau yn y pen draw cael eu dosbarthu a’u dysgu ar y cyd.