WAQ73339 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/04/2017

Beth yw costau ac amserlen y cynllun y cyfeiria'r Prif Weinidog ato mewn ymateb i gwestiwn llafar ar 4 Ebrill yn y Cyfarfod Llawn o weithredu gwelliannau i rannau o'r A470 lle mae tagfeydd? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith | Wedi'i ateb ar 18/04/2017

Rydym ar hyn o bryd yn dechrau datblygu a gweithredu rhaglen waith i fynd i’r afael â’r tagfeydd gwaethaf ar y rhwydwaith cefnffyrdd ledled Cymru. Bydd y rhaglen hefyd yn darparu cyfleoedd diogel i oddiweddu yn y Canolbarth.

Fel rhan o’r rhaglen hon, mae astudiaeth goridor ar y gweill ar hyn o bryd ar yr A470 i nodi’r ardaloedd sy’n peri problemau a’r gwaith sydd angen ei wneud i’w datrys. Ar hyn o bryd felly nid yw’n bosib rhoi manylion cynlluniau penodol nac amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith.