A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â diffyg deintyddion y GIG yn Nolgellau? W
Rwy’n ymwybodol bod practis deintyddol yn Nolgellau wedi rhoi rhybudd ei fod yn terfynu ei gontract gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o 31 Mawrth 2017. Rwy’n deall bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer rhoi trefniadau dros dro ar waith i sicrhau y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol o dan y GIG yn parhau ar gyfer trigolion Dolgellau.
Pan fydd practis deintyddol yn penderfynu lleihau neu derfynu ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o dan y GIG, bydd y bwrdd iechyd yn cadw’r cyllid cysylltiedig ar gyfer ail-gomisiynu’r gwasanaeth. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n cynnal proses dendro i gael gwasanaethau deintyddol newydd ac ychwanegol, ac mae wedi gwahodd ceisiadau gan gontractwyr deintyddol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o dan y GIG.
Mae’r bwrdd iechyd wedi cydnabod nad yw lefel y mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG cyfuwch ag yr hoffai iddo fod. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd sicrhau bod darpariaeth newydd yn cael ei chynnig yn lle darpariaeth ddeintyddol y GIG sydd wedi dod i ben yn Nolgellau; ac iddo adolygu a gwella mynediad at wasanaethau deintyddol gofal sylfaenol y GIG drwy gyrraedd y targedau a bennwyd yn ei Gynllun Gweithredol 2016-17.