WAQ71979 (e) Wedi’i gyflwyno ar 30/01/2017

Pa ddadansoddiad y mae Comisiwn y Cynulliad wedi'i wneud mewn cysylltiad â gwerth-am-arian i'r trethdalwr o ran yr adnoddau a chostau amser i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o gyflwyno'r Bil Undebau Llafur (Cymru)?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 09/02/2017

Mae Comisiwn y Cynulliad yn defnyddio ystod o reolaethau a phrosesau i sicrhau bod gwerth am arian wrth wraidd y gwasanaethau y mae'n eu darparu i'r Cynulliad.

Fodd bynnag, nid yw Comisiwn y Cynulliad yn pennu cyllideb ar sail eitemau unigol o waith craffu gan y Cynulliad nac yn dadansoddi gwariant ar yr eitemau hyn. Yn lle hynny, mae Comisiwn y Cynulliad yn dyrannu adnoddau i'r gwahanol fathau o wasanaethau y mae'n eu darparu, ac mae staff yn gweithio gydag Aelodau i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r adnoddau hynny o fewn gofynion y Rheolau Sefydlog a'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Caiff y penderfyniad i gyflwyno Bil ei wneud gan yr Aelod sy'n gyfrifol, a chaiff natur y gwaith craffu dilynol ei lywio gan benderfyniadau'r Pwyllgor Busnes, pwyllgorau eraill a'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad wedi'u dylunio i ymateb i'r penderfyniadau hyn.

Cyfeiriwyd y Bil Undebau Llafur (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1, a dyddiad cau y Pwyllgor hwnnw ar gyfer cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yw 7 Ebrill 2017. Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd yn craffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1, a gall y Pwyllgor Cyllid (a phwyllgorau eraill) benderfynu gwneud hynny hefyd. Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yw 16 Gorffennaf 2017, ar yr amod bod y Cynulliad yn derbyn egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae'r amserlen ar gyfer cyfnodau pellach (os yn berthnasol) yn fater i'r Llywodraeth.

At ddibenion enghreifftiol yn unig, caiff cyfanswm blynyddol y costau cyflog (yn ôl cyfraddau 2017/18) i'r Comisiwn o ran y prif wasanaethau sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau a ddisgrifir uchod eu dangos isod.

  • Tîm clercio (4 o staff fel arfer) ar gyfer pob pwyllgor: hyd at £166,420 x 3 y flwyddyn
  • Y Gwasanaeth Ymchwil: hyd at £140,076 y flwyddyn
  • Y Gwasanaeth Cyfreithiol: hyd at £369,218 y flwyddyn
  • Swyddogion cyfathrebu: hyd at £73,818 y flwyddyn


Mae'n bwysig iawn nodi na ellir gwahanu cost eitem unigol o waith craffu o'r symiau cyffredinol. Hefyd, nid yw'r symiau hyn yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig (er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys costau'r adeilad, offer, cyfleustodau, treuliau, cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, darlledu neu unrhyw gostau i'r Aelodau). Byddai'n gamarweiniol iawn felly eu defnyddio y tu allan i'r cyd-destun hwn, heb unrhyw gafeatau.

Nid yw yr un o'n timau yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar graffu ar y Bil hwn. Bydd staff cyfathrebu, er enghraifft, fel arfer yn gweithio ar draws ystod eang o bwyllgorau, gan gefnogi ymchwiliadau polisi ac ymchwiliadau deddfwriaethol ar yr un pryd, yn ogystal ag ystod o gyfrifoldebau eraill. Yn yr un modd, gall staff y Gwasanaeth Ymchwil a'r Gwasanaethau Cyfreithiol gefnogi sawl pwyllgor, a byddant hefyd yn darparu cyngor mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol ar faterion y maent yn arbenigo ynddynt. Yn anaml iawn y bydd timau clercio'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar un eitem o waith craffu yn unig - fel arfer, bydd pwyllgorau'n craffu (neu'n paratoi i graffu) ar sawl eitem o bolisi, deddfwriaeth neu gyllid. Bydd Comisiwn y Cynulliad fel arfer yn asesu gwerth y buddsoddiad hwn i benderfynu a yw Aelodau yn fodlon ar y gwasanaethau a ddarparwyd iddynt er mwyn eu galluogi i graffu'n effeithiol. Wrth wneud y gwaith hwn, mae'n bosibl y bydd Aelodau'n gwneud gwelliannau i'r ddeddfwriaeth ei hun ac i'r ffordd y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu a/neu ddealltwriaeth y cyhoedd ohoni. Mae'r gwaith craffu ei hun yn galluogi'r Cynulliad i asesu gwerth y ddeddfwriaeth dan sylw.