WAQ73289 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/03/2017

Pa daliadau a lwfansau sydd wedi'u gwneud i aelodau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers i Lywodraeth Cymru ei roi mewn mesurau arbennig? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 06/04/2017

Mae cyfanswm tâl Aelodau'r Bwrdd yn cael ei ddatgelu'n flynyddol yn yr Adroddiad ar Dâl a gyhoeddir fel rhan o Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn unol â'r gofynion adrodd ariannol. Mae copi o gyfrifon 2015/16 i'w gweld drwy'r ddolen isod:
 
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/861/BCUHB%20Annual%20Report%202015-16%20Welsh2.pdf