WAQ72984 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/02/2017

A oes cyfarwyddyd i'r byrddau iechyd o ran y modd yr ariennir canolfannau iechyd newydd? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 22/02/2017

Mae canllawiau ar gyflawni prosiectau cyfalaf drwy Raglen Cyfalaf Cymru Gyfan i'w gweld yng Nghanllawiau Buddsoddi yn Seilwaith y GIG. Fe gafodd y ddogfen hon ei hadolygu a'i chyhoeddi ym mis Mawrth 2015, yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (2015) 012.

http://gov.wales/docs/dhss/publications/150331whc012en.pdf

Mae'r fframwaith ar gyfer cyflawni prosiectau drwy fodel arian refeniw i'w weld yn y Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol – Costau Adeiladau) (Cymru) 2015

http://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/nhswales/2015/2015direct9/?skip=1&lang=cy