WAQ72030 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2017

Mae Arfarniad Opsiynau Lleoliadau Awdurdod Cyllid Cymru yn dangos mai Parc Cathays, Merthyr a Threfforest oedd y tri lleoliad ar restr fer y mannau i'w hystyried, beth oedd dyddiad ffurfio'r rhestr hon?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 16/02/2017

Bydd lleoliad Awdurdod Cyllid Cymru'n cael ei adolygu ar ôl deunaw mis. Bydd yr adolygiad yn ystyried gofynion gweithredol yr Awdurdod a ph'un a yw wedi denu'r sgiliau penodol ac arbenigol y mae eu hangen er mwyn gweithredu'n effeithiol. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried Strategaeth Leoli ehangach Llywodraeth Cymru.

Gosodwyd yr arfarniad o opsiynau ar gyfer lleoliad gerbron y Cynulliad ar 3 Chwefror. Roedd yr adroddiad hwn yn asesu'r materion a ystyriwyd wrth benderfynu lleoli'r Awdurdod yn Nhrefforest ac iddo gael presenoldeb yn Aberystwyth a Llandudno. Lluniwyd fersiwn derfynol o'r adroddiad fis Hydref ac fe'i cyflwynwyd imi ei ystyried. Defnyddiais yr amser hwn i bwyso a mesur yr opsiynau ac fe ymgynghorwyd ag ochr yr Undebau Llafur o fewn Llywodraeth Cymru hefyd.

Wrth gynnal yr arfarniad, cadarnhawyd mai aros o fewn ystad Llywodraeth Cymru fyddai'n cynnig y gwerth gorau am arian. Mae'r arfarniad o opsiynau (tudalen 14, pwynt 67) yn nodi'r meini prawf a ddefnyddiwyd wrth ddiystyru eiddo posib yn ystad Llywodraeth Cymru. Roedd y meini prawf hyn yn cynnwys bod lle ar gael yn yr eiddo erbyn mis Ebrill 2018, addasrwydd y les a bodloni gofynion yr Awdurdod. Roedd y rhestr fer yn cynnwys chwech o adeiladau'r Llywodraeth wedi'u lleoli ledled Cymru.

Nid adeiladau'r Llywodraeth nad oeddent yn cael eu defnyddio a aseswyd fel rhan o'r arfarniad, ond swyddfeydd â chanddynt ddigon o le ac a oedd yn bodloni gofynion yr Awdurdod. Cafodd swyddfeydd y Llywodraeth yn y Gogledd eu hasesu a'r unig un a oedd yn gallu diwallu anghenion yr Awdurdod oedd swyddfa Cyffordd Llandudno.