Beth oedd y costau llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd yn gysylltiedig ag ystyried pob Bil a gyflwynwyd yn ystod tymor y Pedwerydd Cynulliad, o pan gawsant eu cyflwyno tan gyfnod olaf pob un?
Nid oes gan Gomisiwn y Cynulliad wybodaeth am gostau llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd yn gysylltiedig ag ystyried pob Bil a gyflwynwyd yn ystod tymor y Pedwerydd Cynulliad, o pan gawsant eu cyflwyno tan gyfnod olaf pob un.
Mae'r Comisiwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i Aelodau a Phwyllgorau i gefnogi'r broses ddeddfwriaethol. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogaeth drefniadol, cyfreithiol, ymchwil, cyfathrebu, TGCh, cyfieithu ar y pryd, cyfieithu a gweinyddol yn ogystal â gwasanaethau sy'n delio â'r cyhoedd fel ymgysylltu ag ymwelwyr a diogelwch.
Er y gellir nodi rhai costau penodol ar gyfer darnau penodol o ddeddfwriaeth (er enghraifft, pan gafodd lleoliad allanol ei logi ar gyfer gwaith ymgysylltu yn ymwneud â gwaith craffu ar Fil), mae mwyafrif helaeth y costau yn ymwneud ag amser Aelodau'r Cynulliad a staff y Comisiwn a staff Aelodau a oedd yn ymwneud â gwaith craffu Bil. Mae staff ac Aelodau, wrth gwrs, yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar waith seneddol ac nid yw'n bosibl dadgyfuno'n gywir yr elfennau a neilltuwyd ar gyfer craffu yn unig.