WAQ71543 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2016

Pryd y mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi TAN20, wedi ei ddiwygio yn dilyn y newidiadau i'r ymdriniaeth o'r Gymraeg yn y drefn gynllunio yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 02/12/2016

Mae’r newidiadau i TAN 20 wrthi’n cael eu cwblhau’n derfynol a bwriedir cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig ar ddechrau’r flwyddyn newydd.