WQ101181 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2026

Ymhellach i ateb y Prif Weinidog i OQ64801 ar 3 Tachwedd 2026, a wnaiff y Gweinidog Cabinet gyhoeddi'r sicrwydd diogelu a chapasiti ymwelwyr iechyd a ddaeth i law gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan nodi pryd y daethant i law a sut yr aseswyd eu digonolrwydd?

Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan

Mae fy mhartner yn gweithio o fewn y GIG

I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal