Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i'r posibilrwydd o addasu'r dulliau arloesol a ddefnyddiwyd i wella gwasanaethau arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan gynnwys adnoddau digidol, llwybrau gofal cydgysylltiedig ac un pwynt mynediad at gymorth arbenigol, er mwyn gwella gofal ar gyfer cyflyrau hirdymor eraill, megis epilepsi?
I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal