Ymhellach atWQ100802, a wnaiff y Gweinidog Cabinet nodi'r dangosyddion clinigol, y data gwaelodlin, y fethodoleg werthuso a'r amserlen gyhoeddi a gaiff eu defnyddio i fesur a yw cynyddu'r isafbris uned i 65c yn lleihau dibyniaeth ar alcohol, yn hytrach na newidiadau mewn ymddygiad prynu neu ddefnydd a fodelwyd?
I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal