WQ100930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet gadarnhau pa gamau a gymerwyd gan y grŵp goruchwylio ar gyfer yr asesiad sicrwydd cenedlaethol o ofal a gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, a pha gynnydd a wnaed o ran gweithredu'r argymhellion i fynd i'r afael â methiannau difrifol yn y ddarpariaeth gofal?

I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal