Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar roi hawl gyfreithiol i denantiaid sy'n byw mewn tai cymdeithasol wneud cais i gadw anifail anwes?
Ar hyn o bryd gall tenant tŷ cymdeithasol yng Nghymru ofyn am ganiatâd i gadw anifail anwes o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ond nid oes hawl ganddo i’r cais hwnnw gael ei ystyried neu i'r cais hwnnw gael ei ganiatáu. Mae'r sefyllfa yn debyg ar gyfer tenantiaid y sector rhentu preifat. Nododd datganiad y Prif Weinidog ar 14 Gorffennaf ein huchelgais ddeddfwriaethol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gryfhau hawliau a chodi safonau yn y sector rhentu preifat. Er bod ein ffocws wedi'i anelu'n bennaf at ddiwygio'r sector rhentu preifat, gall rhai meysydd darpariaeth ryngweithio â'r sector rhentu cymdeithasol. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio pa hawliau ac amddiffyniadau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer rhentwyr yng Nghymru, gan gynnwys ystyried darpariaethau mewn perthynas ag anifeiliaid anwes. Wrth wneud hynny, rhoddir ystyriaeth briodol i'r sector rhentu cymdeithasol a phreifat.