WQ100604 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i ddiddymu Senedd Ieuenctid Cymru?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 15/10/2026

Nid yw'r Comisiwn wedi ystyried diddymu Senedd Ieuenctid Cymru.

Diben Senedd Ieuenctid Cymru (y Senedd Ieuenctid) yw rhoi llwyfan cenedlaethol i bobl ifanc ledled Cymru i godi a hyrwyddo’r materion sy’n bwysig iddyn nhw, cryfhau eu hymgysylltiad â sefydliadau democrataidd a dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau.

Yn ystod ei ddau dymor cyntaf, mae’r Senedd Ieuenctid wedi llwyddo i gryfhau lleisiau pobl ifanc o bob cwr o Gymru, wedi galluogi Aelodau i ganfod blaenoriaethau ac ymgynghori â’u cyfoedion, ac wedi dod â’u hargymhellion yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau. Mae wedi cefnogi cyfranogiad democrataidd pobl ifanc, wedi helpu i hyrwyddo egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru ac wedi meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â sefydliadau'r sector ieuenctid a rhanddeiliaid eraill.

Mae gwerthusiad allanol annibynnol yn asesu gwaith y Senedd Ieuenctid yn ystod ei ddau dymor cyntaf. Mae'n archwilio effeithiolrwydd, darpariaeth, trefniadau gweithredu ac effaith y Senedd, gan dynnu ar dystiolaeth gan gyn-Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sefydliadau'r sector ieuenctid a rhanddeiliaid eraill. Mae canfyddiadau cychwynnol yn dangos cefnogaeth eang i'r Senedd Ieuenctid a'i rôl. Bydd y Comisiwn yn defnyddio'r dystiolaeth i ganfod sut y gellir cryfhau ei waith ymhellach a bydd yn cyhoeddi ac yn rhannu canfyddiadau allweddol y gwerthusiad gyda'r Aelodau maes o law.