A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau i ddatblygu canolfan gofal iechyd amlddisgyblaeth newydd yng nghanol Bangor?
Ar ôl cael cais am gyllid i gefnogi datblygiad achos busnes ym mis Mawrth 2025, nodwyd bod angen gwneud gwaith pellach cyn y gallai’r cynnig symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae’r Achos Amlinellol Strategol yn cael ei adolygu gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd i benderfynu ar y camau nesaf ar gyfer y cynnig cyn ei ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru.
I gefnogi’r broses hon, hwylusodd swyddogion Llywodraeth Cymru ymweliad â chynllun tebyg yng Ngorllewin Cymru ar gyfer cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd, gan eu galluogi i adolygu’r prosiect ac adnabod gwersi a ddysgwyd a allai fod o gymorth wrth lywio datblygiad Hwb Iechyd a Lles Bangor.