A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau i ddatblygu canolfan gofal iechyd amlddisgyblaeth newydd yng Nghaergybi?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 24/09/2026
Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer cynnig Caergybi ym mis Hydref 2024. Fodd bynnag, rhoddwyd y gorau i’r gwaith dros dro tra’r oedd y Bwrdd Iechyd yn cynnal ymarfer blaenoriaethu ar gyfer ei raglen datblygu gofal sylfaenol a chymunedol. Ar hyn o bryd mae’r Bwrdd Iechyd wrthi’n diweddaru'r Achos Amlinellol Strategol ac, yn amodol ar gadarnhau’r blaenoriaethu, maent wedi cadarnhau eu bwriad i ailgyflwyno'r cais i Lywodraeth Cymru.