A wnaiff y Comisiwn roi'r rhesymeg pam ei fod yn coffáu Diwrnod Owain Glyndŵr?
Fel arfer, mae coffáu diwrnod Owain Glyndŵr wedi'i gyfyngu i godi baner Glyndŵr. Gwneir hyn yn unol â’r protocol baneri sy'n nodi pryd y bydd gwyriad o gyfluniad arferol baneri’r Senedd, yn ogystal ag ystyriaethau eraill sy'n ymwneud â phrotocol, megis ymweliadau swyddogol a gweithdrefnau banner wedi’i hanner gostwng. Mae'r protocol ar gael yn gyhoeddus ar wefan y Senedd.
Gall digwyddiadau coffáu fel hyn helpu i feithrin dealltwriaeth gyhoeddus o hanes Cymru ac esblygiad cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru. Maent yn cynnig cyfle i ddinasyddion ymgysylltu â gwreiddiau hanesyddol bywyd cyhoeddus Cymru a gwerthfawrogi'r parhâd rhwng sefydliadau hanesyddol Cymru a'i deddfwrfa fodern.