A wnaiff y Comisiwn sicrhau bod cyhoeddiadau, hysbysiadau a rhybuddion sy'n ymwneud â diogelwch ar yr ystâd yn cael eu cyflwyno yn gyntaf yn yr iaith a gaiff ei deall gan y rhan fwyaf o'r rhai sy'n gweithio yn yr ystâd neu'n ymweld â'r ystâd?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 18/09/2026
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Caiff pob cyhoeddiad, hysbysiad a rhybudd sy'n ymwneud â diogelwch ar yr ystâd, fel systemau larwm tân, drwy ein system gyhoeddiadau cyhoeddus fewnol, eu cyflwyno yn Saesneg yn gyntaf ac yna yn Gymraeg.
Byddai unrhyw gyhoeddiadau nad oeddent yn ymwneud â diogelwch neu argyfwng yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg yn gyntaf ac yna yn Saesneg.