A yw'r Comisiwn yn annog ei weithwyr i ddarparu eu rhagenwau dewisol mewn e-bost a gohebiaeth swyddogol arall?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 16/09/2026
Nid yw Comisiwn y Senedd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr gynnwys rhagenwau mewn llofnodion e-bost neu gyfathrebiadau swyddogol eraill.
Mae PLWS, y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle yn y Senedd ar gyfer staff LHDTC+, wedi cyhoeddi canllawiau yn y gorffennol i godi ymwybyddiaeth o ddefnyddio rhagenwau personol mewn ffordd barchus ac i ddarparu gwybodaeth am sut y gall gweithwyr gynnwys eu rhagenwau dewisol yn eu llofnodion e-bost. Bwriad y canllawiau yw hysbysu a chefnogi staff a allai fod yn dymuno gwneud hynny ar sail wirfoddol.